Menu 

Hanes a Threftadaeth

Y Baddondai Rhufeinig

Roedd gan Ugeinfed Lleng y Rhufeiniaid ei phencadlys yng Nghaer 2,000 o flynyddoedd yn ôl a’r farn yw bod rhan ategol o’r lleng honno wedi’i seilio bryd hynny mewn amddiffynfa lle mae Ysgol y Llys erbyn hyn (sef St. Chads gynt) ar Rodfa’r Tywysog, Prestatyn.
Canfuwyd baddondy Rhufeinig yn dyddio’n ôl i’r cyfnod yma yng ngwaith cloddio 1984 ar safle ym Melyd Avenue. Ail gloddiwyd y baddondy. Roedd wedi ei adeiladu o gerrig a chanddo dair ystafell, dwy yn cael eu gwresogi o ffwrnais ar ben gorllewinol yr adeilad. Roedd gan yr ystafell newid oer ar y pen dwyreiniol faddon plymio oer ynghlwm ar ei hochr ddeheuol. Byddai’r bobl oedd yn mwynhau’r baddon yn dechrau trwy ddadwisgo yn yr ystafell newid ac yna’n symud i’r ystafell gynnes, lle byddent yn aros am gyfnod, cyn symud i’r ystafell boeth iawn, lle byddai’r awyrgylch llaith poeth yn hybu chwysu mawr. Yma byddai’r corff yn cael ei orchuddio ag olew a’i grafu’n lân gyda Strigil (crafwr croen).

Yna byddent yn dychwelyd i’r ystafell gynnes i oeri cyn plymio i mewn i’r dŵr oer. Byddai’r baddonau yma hefyd yn ganolfan gymdeithasol i’r milwyr Rhufeinig, lle byddent, yn ogystal â’u glanhau eu hunain, yn ymlacio, darllen neu sgwrsio gyda chyfeilion.
Roedd un o’r teils a ganfuwyd yn y baddondy wedi’i gynhyrchu yn Holt ger Caer ac mae’n debyg ei bod wedi ei chludo ar hyd yr arfordir i’r harbwr ym Mhrestatyn. Cyn tanio’r odynnau, byddai’r teils yn cael eu gadael i sychu yn yr haul. Pan oedd y deilsen arbennig yma’n sychu, safodd ci arni, gan adael ôl ei bawennau arni.

Y prif reswm bod yr Ugeinfed Lleng wedi dod i Brestatyn oedd y cyfoeth mawr o fwynau yma – sef plwm – yng Ngallt Melyd, y gellid ei brosesu ar y safle ac yna ei gludo ar hyd yr arfordir i Gaer.
Un o’r canfyddiadau mwy diddorol ar y safle oedd nifer o dlysau efydd oedd yn awgrymu bod gofaint efydd yn byw yn yr ardal ac yn cynhyrchu eitemau i’w gwerthu yn yr anheddiad. Canfyddiad mwy annisgwyl oedd babi o Oes yr Haearn – y mae dyddio carbon yn dangos ei fod yn fyw oddeutu’r flwyddyn 30 CC.

Mae gan Brestatyn ddarn o waith celf ar siâp helmed Rufeinig ar lethr y bryn i gofio ein Treftadaeth Rufeinig. Ar yr Helmed Rufeinig mae siapiau dail Derw Sesil – coeden sy’n gyffredin yn yr ardal ac sy’n symbol o gryfder a chadernid. Wrth lunio’r Helmed Rufeinig, gofynnwyd i Ysgol Uwchradd Prestatyn lunio gwaith celf i fynegi’r hyn roedd y plant yn gredu sydd bwysicaf ym Mhrestatyn heddiw. Mae detholiad o’r lluniau yma wedi eu boglynnu ar yr Helmed.
Cynhaliodd Brestatyn ddigwyddiad cymunedol Dychweliad y Rhufeiniaid eleni i ddysgu pobl am y Rhufeiniaid ac i adael iddynt gymryd rhan mewn adfywiad Rhufeinig a dangosiadau hanes byw.

Gallwch weld gwybodaeth ychwanegol am y Baddondy ar y wefan Stroll Around the Walls of Chester

roman-bath-house roman-helmet-prestatyn roman-history-prestatyn roman-history-prestatyn

Llwybr Clawdd Offa

Yn ystod yr 8fed ganrif, cafwyd gorchymyn gan y Brenin Offa o’r Mers i adeiladu clawdd mawr fyddai’n ymestyn o fôr i fôr, i ddynodi ffin orllewinol ei frenhiniaeth gyda Chymru. Mewn rhai mannau mae modd ei weld o hyd, gyda chlawdd hyd at 25 troedfedd o uchder a ffos ddofn ar hyd ei ochr. Mae Llwybr Clawdd Offa’n cychwyn yng Nghas-gwent ar aber yr afon Hafren ac yn dilyn cwrs y darn hynafol yma o wrthglawdd i Brestatyn ar arfordir Gogledd Cymru. Mae’n pasio drwy olygfeydd prydferth yn amrywio o goetiroedd ceunant gwych y Gwy i esgeiriau gwyntog y Mynyddoedd Du ac o fryniau tonnog a chymoedd diarffordd canolbarth Cymru i’r gorchudd grug ar Fryniau Clwyd. Ar ei daith, mae’n ymweld â dilyniant o drefi ffiniol hanesyddol a phentrefi deniadol yn cynnwys Mynwy, y Gelli Gandryll, Knighton, Trefaldwyn a’r Trallwng.

LATEST FROM INSTAGRAM